Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (158)v3 |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
|
Cwestiwn Brys
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Yn dilyn y datganiadau a wnaed gan Brif Weinidog Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda y bydd llawdriniaethau orthopedig yn cael eu gohirio dros y gaeaf, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y cymorth a roddir i gleifion a fydd yn gorfod aros yn hirach am driniaeth oherwydd y penderfyniad hwn?
|
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4 Cynnig i ddirymu Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 (30 munud)
NDM5307 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Awst 2013, yn cael eu dirymu.
Dogfennau ategol: Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
5 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref (60 munud)
NDM5339 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am ei Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai ac Adfywio i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2013.
Dogfennau ategol: Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
6 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru (60 munud)
NDM5340 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mai 2013.
Dogfennau ategol: |
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5341 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod bylchau cyrhaeddiad mewn addysg yng Nghymru, sy'n dal grwpiau gwahanol o blant yn ôl;
2. Yn credu y gall y rhai hynny nad ydynt yn cyrraedd eu potensial llawn yn aml deimlo wedi'u difreinio, a gall hyn arwain at broblemau yn ddiweddarach mewn bywyd;
3. Yn cydnabod ymhellach bod symud rhwng addysg gynradd ac uwchradd yn newid mawr ar gyfnod sydd eisoes yn anodd o ran datblygiad plentyn; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes tarfu ar ddysgu yn ystod y cyfnod hwn drwy weithredu strategaeth addysg 8-14 oed gadarn a phenodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1 ‘, yn arbennig y bwlch rhwng cyrhaeddiad ac amddifadedd’
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘ac yn croesawu’r cynnydd yn y Grant Amddifadedd Disgyblion a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2014-15, a fydd yn helpu i dorri’r cyswllt rhwng tlodi a thangyflawni addysgol.’
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod gofalwyr ifanc yn benodol mewn perygl yn aml o dangyflawni’n addysgol oherwydd yr heriau ychwanegol y maen yn eu wynebu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o wella sut y mae adnabod gofalwyr ifanc a’u cefnogi er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial addysgol a’u cefnogi wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ffurfioli partneriaethau rhwng ysgolion a sicrhau bod yr addysg blynyddoedd cynnar yn cynnig cydbwysedd gwell o addysgu bugeiliol ac academaidd, i helpu i wella’r broses pontio disgyblion o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd.’
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 4 dileu ‘a phenodol.’
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘ac i gefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial llawn drwy ddiwygio’r system bandio ysgolion i sicrhau ei bod yn mesur perfformiad ysgol yng nghyd-destun perfformiad disgyblion unigol.’ |
Cyfnod Pleidleisio |
8 Dadl Fer (30 munud)
NDM5338 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Bae Abertawe Dinas Diwylliant – cyfle creadigol i'r economi.
Cais Rhanbarth Bae Abertawe ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2017 a'r manteision i economi Cymru yn sgîl cais llwyddiannus. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2013